Apêl yn dilyn ffrae yng Nghaergybi

Mae’r heddlu yn apelio am dystion yn dilyn ffrae yng Nghaergybi.

Digwyddodd yn y stryd ar Ffordd Wynfa ychydig cyn 6.05yh nos Fercher diwethaf (8 Mai). Mae swyddogion yn edrych ar adnabod perchnogion fan lliw golau fawr a welwyd yn yr ardal bryd hynny.

Dywedodd DC 3079 Geraint Jones yng ngorsaf heddlu Llangefni: ”Rydym yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi bod yn yr ardal ac wedi gweld yr aflonyddwch neu sydd efallai â ffilm camera cerbyd neu CCC o’r digwyddiad i gysylltu â ni.”

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr aflonyddwch, cysylltwch â DC Jones yn CID Llangefni ar 101, gan ddyfynnu cyfeirnod 19100230095, neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice