Gorsedd y Beirdd: cyhoeddi enwau newydd

Mae Gorsedd y Beirdd wedi cyhoeddi enwau’r rheini a fydd yn cael eu derbyn drwy anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst ym mis Awst.

Yn ôl y trefnwyr, mae’r anrhydeddau, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.

Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod, fore Llun 5 Awst a bore Gwener 9 Awst.

Dyma’r rhestr o aelodau newydd o Ynys Môn a Gwynedd…

GWISG WERDD

Menna Baines, Bangor
Mae Menna Baines yn adnabyddus am ei chyfraniad nodedig fel newyddiadurwr, hanesydd llên a chelf, a’i hymroddiad diflino wrth hyrwyddo’r Gymraeg, diwylliant Cymru a lles cymdeithas.

Ond mae ei chyfraniad gwirfoddol i’w hardal a’i bro ym Mangor hefyd yn sylweddol iawn, ac mae hi’n ymwneud â llu o fudiadau, gan gynnwys papur bro Y Goriad, Menter Iaith Bangor a Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn, i enwi ond rhai.

Berno Brosschott, Pwllheli
Daeth Berno Brosschott i Ben Llŷn o’r Iseldiroedd ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, gan ymroi’n llwyr i fod yn rhan o’r gymuned leol.

Fel cynifer o Ewropeaid sydd wedi setlo yng Nghymru, mae wedi cofleidio’n hiaith a’n diwylliant, a bu’n rhan allweddol o dîm y papur bro lleol, Llanw Llŷn ers blynyddoedd lawer, gan arwain ar y gwaith manwl o osod y papur.

Fel modd o gyflwyno hanes a diwylliant Cymru i ymwelwyr o’r Iseldiroedd, cyfieithodd ffilm am fenter Cwrw Llŷn i’r Iseldireg –  cyfraniad pwysig arall gan y gŵr hynod hwn.

John Jones, Tudweiliog
Efallai na fydd pawb yn sylweddoli pwy yw John Jones wrth glywed ei enw ar ei ben ei hun, ond wrth ychwanegu ‘ac Alun’ ar ôl ei enw cyntaf, mae’n amlwg ei fod yn un hanner o’r ddeuawd hynod boblogaidd, John ac Alun.

Mae ei gerddoriaeth wedi rhoi pleser i filoedd o gefnogwyr, a gydag Alun, mae’n gefnogwr brwd nifer o elusennau pwysig, yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae ei wreiddiau’n ddwfn yn ardal Pen Llŷn, a hyn yn cael ei adlewyrchu yn nifer o ganeuon y ddeuawd. Mae’r ddau yn parhau i deithio ar hyd a lled Cymru a’r tu hwnt yn perfformio i gynulleidfaoedd o bob oed.

Alun Roberts, Tudweiliog
Cawn gyfle i anrhydeddu hanner arall y ddeuawd John ac Alun, wrth i Alun Roberts gael ei urddo hefyd eleni. Gyda’i bartner cerddorol, bu Alun yn perfformio am flynyddoedd, ac mae’r ddau wedi ysbrydoli nifer o artistiaid, gan eu rhoi ar ben ffordd a’u meithrin i fod o flaen cynulleidfa.

Mae llu o gerddorion wedi cael profiadau arbennig fel rhan o’u band a theithio i Nashville a Memphis, Tennessee. Er ugain mlynedd bellach, bu’r ddau’n cyflwyno sioe boblogaidd ar nos Sul ar Radio Cymru, ac maent hefyd wedi serennu mewn nifer o gyfresi teledu.

Geraint Løvgreen, Caernarfon
Mae Geraint Løvgreen wedi cyfrannu’n helaeth a di-dor i’r byd canu poblogaidd er y 1970au, ac mae’n llais cyfarwydd ar raglenni radio fel Talwrn y Beirdd.

Caiff ei adnabod fel un o gerddorion mwyaf cynhyrchiol ei gyfnod, ac mae’n uchel iawn ei barch ymysg beirdd a chantorion ac enwogion o fri! Bu’n rhan o sefydlu cwmni cyfieithu Cymen, gyda chwmnïau a sefydliadau’n parhau i droi ato am wybodaeth a chyngor ieithyddol a diwylliannol.

Mae’n Gymro teyrngar sydd wedi adeiladu’i yrfa a’i fywyd teuluol o gwmpas y diwylliant Cymraeg.

Helena Miguelez-Carballeira, Bangor (i’w hurddo yn 2020)
Yn wreiddiol o Galisia, mae Helena Miguelez-Carballeira yn darlithio mewn Astudiaethau Sbaenaidd ym Mhrifysgol Bangor. Llwyddodd i ddyfnhau ein dealltwriaeth ni yma yng Nghymru o hanes a diwylliant Galisia, ac mae hefyd yn arbenigo ar fywyd a gwleidyddiaeth Gwlad y Basg a Chatalwnia.

Cyfrannodd yn helaeth i faes astudiaethau cyfieithu, a thrwy’i hymdrechion hi i raddau helaeth, sicrhawyd fod y Gymraeg yn rhan o’r trafodaethau rhyngwladol sy’n ymwneud â’r maes.

Mae’n enghraifft lachar o’r modd y gall ysgolheigion rhyngwladol sydd ag ymdeimlad tuag at ein diwylliant a gwybodaeth o’n hiaith, gyfoethogi ein bywyd cenedlaethol.

Vivian Parry Williams, Blaenau Ffestiniog
Mae cyfraniad Vivian Parry Williams i fywyd diwylliannol a chymdeithasol ei fro yn sylweddol.  Mae’n arbenigwr ar hanes ardaloedd Ffestiniog a Nant Conwy, ac wedi ymchwilio’n ddyfal i’r maes, yn arbennig y cyfnod o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen.

Cyfrannodd lu o erthyglau i amryw o gyhoeddiadau, a bu’n athro dosbarthiadau nos llwyddiannus ar hanes lleol ac yn ddarlithydd poblogaidd ar draws gogledd Cymru. Mae hefyd yn llenor amlochrog, ac yn enillydd cyson mewn eisteddfodau gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol.

Patrick Young, Llan Ffestiniog
Mae Patrick Young wedi sicrhau bod opera’n cael sylw haeddiannol yn y Gymraeg er degawd a mwy.

Sefydlodd gwmni OPRA Cymru gyda’r nod o fynd â’r byd opera i bob rhan o Gymru, yn ardaloedd trefol a gwledig fel ei gilydd, gyda chynulleidfaoedd yn cael cyfle i fwynhau gweithiau gan Bizet, Verdi, Rossini a llawer mwy dros y blynyddoedd diwethaf.

Uchafbwynt y cwmni hyd yn hyn oedd comisiynu a chyflwyno opera wreiddiol a newydd gan Gareth Glyn a Mererid Hopwood, Wythnos yng Nghymru Fydd. Daeth Patrick i Gymru er mwyn i’w blant gael magwraeth Gymraeg, ac fe gyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod yn 2015.

GWISG LAS

Robin Jones, Penhryndeudraeth
Bu Robin Jones yn gyfaill da i’r Eisteddfod Genedlaethol am ddeng mlynedd ar hugain, yn gwirfoddoli’n flynyddol ym mhob cwr o Gymru.

Ond fel rheol, cyfrannu yng nghanol ei gynefin y bydd Robin. Mae’n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau lleol – bu’n arwain Eisteddfod Stesion, Trawsfynydd am ddeng mlynedd ar hugain, ac yn arwain eisteddfodau’r Urdd a’r Ffermwyr Ifanc yn sirol yn rheolaidd.

A thros y blynyddoedd diwethaf, ac yntau’n dod yn wreiddiol o Drawsfynydd, mae wedi cael cryn bleser o wirfoddoli fel tywysydd yn Yr Ysgwrn. Dyma ddyn sydd wedi gwneud cyfraniad oes ar lawr gwlad.

Phillip Moore, Bangor
Mae Phillip Moore yn enghraifft berffaith o berson a fwriodd ati i ddysgu Cymraeg er mwyn helpu eraill. Yn wreiddiol o Farbados, symudodd i Gymru yn 2010 ar ôl gorffen arbenigo mewn llawfeddygaeth clust, trwyn a gwddf.

Cafodd swydd yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac aeth ati’n syth i ddysgu Cymraeg gan ei fod yn sylweddoli y byddai cleifion yn hapusach wrth drafod symptomau a phroblemau yn eu mamiaith.

Gwnaeth gynnydd ardderchog a chyflym, ac ers blynyddoedd bellach mae’n ymwneud â chleifion a’u teuluoedd yn y Gymraeg, gan sicrhau bod pawb yn gallu ymlacio wrth drin a thrafod pob triniaeth.

Tudur Owen, Y Felinheli
Gall Tudur Owen gynnal diddordeb a pharch pobl sydd â’u gwreiddiau’n nwfn yn y diwylliant Cymraeg traddodiadol yn ogystal â’r Cymry Cymraeg hynny nad ydynt eto wedi llwyr ymollwng iddo.

Mae’n bont a chenhadwr gwerthfawr mewn oes pan fydd llawer o Gymry Cymraeg yn troi at Loegr a’r iaith Saesneg am eu hadloniant.

Mae ei ddawn ym maes comedi wedi ennill iddo barch ar hyd a lled Prydain gan greu cryn argraff mewn gwyliau comedi rhyngwladol a dylanwadol fel yr Edinburgh Fringe. Llwyddodd i wneud hyn heb gyfaddawdu ar ei Gymreictod, ei gefndir na’i barch at ei wlad a’i iaith.

Daniela Schlick, Porthaethwy
Cyrhaeddodd Daniela Schlick rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn 2017, ddwy flynedd yn unig ar ôl symud yma o’r Almaen. Erbyn hyn, mae’n gweithio fel cydlynydd datblygu’r defnydd o’r Gymraeg ym myd busnes i Fentrau Iaith Cymru.

Mae’n gwirfoddoli’n rheolaidd er lles y Gymraeg, gan gynorthwyo gyda phrosiect Llety Arall yng Nghaernarfon, cefnogi sesiynau Paned a Sgwrs yn siop Palas Print ddwywaith y mis, ac mae’n gyfrifol am y sesiynau Peint a Sgwrs a gynhelir yn Nhafarn yr Harp, Bangor bob pythefnos.

Mae’n un o bencampwyr diwrnod Shw’mae Su’mae, ac yn esiampl wych i bawb sy’n ymwneud â’r Gymraeg.

Gari Wyn, Bangor
Byd busnes a cheir yw arbenigedd Gari Wyn Jones. Er iddo hyfforddi fel athro Hanes a gweithio yn y maes hwnnw am gyfnod, roedd mentergarwch yn ei waed, ac yn 1990 aeth ati i sefydlu ei fusnes gwerthu ceir ei hun, Ceir Cymru.

Mae darparu gwasanaeth Cymraeg wrth galon y cwmni, a’r iaith i’w gweld ym mhob elfen o’u gwaith. Mae’n weithgar yn annog Cymry lleol, a phobl ifanc yn arbennig, i fentro ym myd busnes, ac yn ymgynghorydd entrepreneuriaid ifanc ar ran Menter a Busnes gan ymweld ag ysgolion a cholegau yn rheolaidd i gynnig ei gyngor.

Gyda’i ddiddordeb mewn hanes, mae’n arbenigwr ar ardal Uwchaled, hanes y Cymmrodorion, a hanes Jac Glan-y-gors yn Llundain.


Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd.  Mae pob person sy’n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i’r Wisg Werdd, neu’r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu cyfraniad.

Mae’r rheini sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau.  Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd sydd wedi llwyddo mewn cwrs gradd yn y Gymraeg, mewn Cerddoriaeth, neu unrhyw bwnc a astudiwyd yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd.

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice