Canolfan Pontio ar gau wedi tân

Dafydd Griffith (MônFM)

Mae’r canolfan Pontio ym Mangor ar gau yn dilyn tân.

Am 11.45yb ddydd Llun (29 Ebrill), hysbyswyd bod tân y tu allan i lefel uchaf y ganolfan gelfyddydau (lefel 5) ble roedd gwaith adeiladu yn digwydd.

Yn ôl Prifysgol Bangor, sy’n gyfrifol am redeg Pontio, cafodd yr adeilad ei wagio a doedd dim anafiadau.

Mae archwiliad i achos y tân ar y gweill. Bydd y ganolfan yn aros ar gau am weddill y diwrnod oherwydd oglau mwg. Mae digwyddiad sinema a gweithgareddau ieuenctid wedi cael eu canslo.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: ”Mae criwiau o Fangor, Porthaethwy ac Amlwch wrthi’n delio gyda thân mewn adeilad ar Ffordd Deiniol, Bangor.”

”Mae’r tân, sydd wedi effeithio ar ddefnyddiau yn nho’r adeilad, dan reolaeth erbyn hyn. Mae’r diffoddwyr tân bellach yn awyru’r adeilad.”

Mae Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Bangor, sydd wedi’i leoli yng nghanolfan Pontio, hefyd ar gau nes fydd gwybodaeth pellach. Bydd cyfarfodydd dydd Llun yn cael eu ail-drefnu.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice