
Geograph / Eric Jones
Bydd ffatri plastig yn Amlwch yn cau cyn diwedd y flwyddyn.
Bydd 104 o swyddi yn cael eu colli wedi penderfyniad gan cwmni Grŵp REHAU ar dydd Mawrth (23 Ebrill).
Datgelodd y cwmni ym mis Ionawr fod y swyddi’r gweithlu cyfan, dan fygythiad o ganlyniad i gwymp yn y galw am ei gynhyrchion PVC dramor. Ar dydd Mawrth (23 Ebrill), cadarnhaodd y cwmni na fyddai’r cynigion amgen gyflwynwyd gan weithwyr yn gallu achub y ffatri.
Yn ôl arweinydd y Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi, mae’r penderfyniad yn ”ergyd ddifrifol i Amlwch”.
Dyweddod yr arweinydd: ”Mae hon yn ergyd ddifrifol i weithlu ffyddlon Rehau, eu teuluoedd, cymuned Amlwch ac ardaloedd y cylch.”
”Mae Rehau wedi bod yn un o brif gyflogwr y dref ac yn gyflogwr da ers degawdau – ac felly ein pryder mwya’ fydd dyfodol y gweithlu a’r teuluoedd hynny sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol.”
”Bydd y grŵp tasg sefydlwyd ar ôl crybwyll cau ddechrau’r flwyddyn yn parhau i weithio tuag at gydlynu’n effeithiol yr holl gymorth sydd ar gael i weithwyr. Mae’r cyhoeddiad yma, ynghyd â’r penderfyniad diweddar i atal cynllun Wylfa Newydd yn gadael dyfodol Amlwch a Gogledd Ynys Môn mewn sefyllfa ansicr a bregus.”
”Tra’n parhau i weithio gyda’n partneriaid i gyd er mwyn rhoi cymaint o gefnogaeth â phosib, rwyf nawr yn annog Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gymryd camau pendant sydd eu hangen i ddarparu buddsoddiad newydd a chreu swyddi i sicrhau dyfodol Amlwch a Gogledd Ynys Môn yn y tymor byr ac i’r dyfodol.”
Mae REHAU hefyd yn gweithredu ffatri ym Mlaenau Ffestiniog. Bydd cynhyrchu yn ffatri Amlwch yn symud i safleoedd eraill yn Ewrop.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor: ”Os yw penderfyniad Rehau yn un terfynol, yna dylid ystyried dyfodol y safle hefyd. Mae’n adnodd economaidd pwysig, a all fod yn sail i gyfleoedd gwaith eraill, ac ni ddylai aros yn segur am gyfnod hir.”
Dywedodd y deilydd portffolio Datblygu Economaidd, Carwyn Jones: ”Dwi wedi synnu a thristáu gan gadarnhad rheolwyr Rehau ac o safbwynt y nifer o swyddi bydd yn cael eu colli. Daw’r newyddion ar adeg ansicr iawn i’r rhai sy’n gweithio ac yn byw yng Ngogledd Môn.”
”Bydd rhaid i Rehau barhau i ymgysylltu’n gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i geisio lliniaru’r effaith ar staff. Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn derbyn ymrwymiad clir gan Lywodraeth y DU ei fod am gyflawni prosiect Wylfa Newydd a fydd o gymorth wrth liniaru ac ymateb i’r golled swyddi yma.”