
Mae dyn mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei saethu hefo bwa croes ger Caergybi.
Derbyniodd y dyn 74 oed anafiadau arwyddocaol sy’n peryglu ei fywyd ar ôl y digwyddiad tu allan i’w gartref mewn ardal anghysbell ger Ffordd South Stack ar Dydd Gwener y Groglith (19 Ebrill).
Roedd ef tu allan i’w dŷ gan ei fod yn ceisio trwsio ei lloeren deledu pan gafodd ei daro.

Mae’r tŷ mewn man hynod o anghysbell ger cyffordd Ffordd Porthdafarch a Ffordd Plas.
Ddaru o allu mynd mewn i’w dŷ lle cafodd y gwasanaeth Ambiwlans eu galw am 00:34. Fe’i cludwyd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gan ambiwlans lle mae’n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.
Cafodd yr heddlu eu galw am 02:45 gan staff nos Ysbyty Gwynedd yn cyfleu, ar ôl archwiliad meddygol, fod y dyn wedi derbyn anafiadau a oedd yn gyson gyda chael ei saethu hefo bwa croes.
Meddai’r Ditectif Prif Arolygydd Brian Kearney o swyddfa CID yn Llangefni: ”Rydym wedi cychwyn yr ymchwiliad ac yn gweithio’n galed er mwyn ceisio darganfod amgylchiadau’r digwyddiad. Mae nifer o ymholiadau’n parhau gyda ditectifs o CID, swyddogion y tîm plismona lleol ac ymchwiliadau fforensig.”
”Mae Gogledd Orllewin Cymru yn un o lefydd fwyaf diogel y Deyrnas Unedig. Mae hwn yn ddigwyddiad hynod o anarferol ar gyfer yr ardal yma ac rydym yn benderfynol i ddod o hyd i bwy bynnag sydd yn gyfrifol ar fater brys.”
Ychwanegodd: ”Rydym yn apelio ar unrhyw berson a oedd yn ardal Ffordd South Stack rhwng 6 o’r gloch nithiwr (nos Iau 18 Ebrill) a 4 o’r gloch (dydd Gwener (19 Ebrill).”
”’Rydym hefyd yn awyddus i siarad ag unrhyw un sydd yn byw yn yr ardal honno ac sydd hefo teledu cylch cyfyng, neu unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd Ffordd South Stack ac sydd hefo camera dashfwrdd i gysylltu â ni.”
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y saethu, cysylltwch â swyddogion yn swyddfa CID yng ngorsaf heddlu Llangefni ar 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod X052857. Fel arall, cysylltwch â Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.