Canslo streic gweithwyr ailgylchu ym Môn

Ni fydd gweithwyr Biffa – contractwr gwastraff ac ailgylchu’r Cyngor Ynys Môn – yn mynd ar streic wythnos nesaf.

Ni cheir gweithredu diwydiannol nawr rhwng Dydd Llun, Ebrill 22ain  a Dydd Sul, Ebrill 28ain ar ôl cytundeb tâl yn dilyn sgyrsiau rhwng Biffa a’i staff mewn anghydfod cyflog.

Yn ôl Cyngor Ynys Môn, bydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn parhau fel arfer.

Dywedodd llefarydd ar ran yr cyngor: ”Rydym yn falch bod trafodaethau rhwng Biffa a chynrychiolwyr undeb wedi arwain at gytundeb ac yn ddiolchgar iddynt am adfer y sefyllfa heb effaith ar drigolion Môn.”

”Mae’r gweithredu diwydiannol nawr wedi ei ganslo a bydd ein gwasanaethau casglu gwastraff a glanhau yn parhau fel arfer wythnos nesaf.”

”Cynghorir trigolion yr Ynys i roi eu biniau a chynhwysyddion ailgylchu allan yn y man arferol erbyn 7.00yb a byddent yn cael eu casglu fel yr arfer.”

”Dylid nodi y bydd canolfannau ailgylchu gwastraff domestig Penhesgyn a Gwalchmai ar agor yn unol â’u horiau arferol.”

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice