Van yn cael ei ddwyn o Deiniolen

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i fan Citroen Berlingo gael ei dwyn o Ddeiniolen yr penwythnos diwethaf.

Cafodd y fan wen ei dwyn rhwng 3.30yb a 6.30yb ar Ddydd Sadwrn 6 Ebrill a’i darganfod wedi ei gadael yn ddiweddarach yn ardal Maes Hyfryd, Caernarfon.

Roedd y fan wedi ei difrodi ac eiddo’r perchennog yn cynnwys bocs offer, golau a radio wedi ei ddwyn.

Meddai PC Jamie Atkinson yng Ngorsaf Heddlu Caernarfon: ”Rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y fan yn gadael Deiniolen ac yna teithio drwy bentref Bethel i mewn i Gae Bold yng Nghaernarfon cyn iddi ddod i stop ym Maes Hyfryd tua 6.35yb ar fore Sadwrn.”

Ychwanegodd PC Atkinson: ”Byddai’n hawdd gweld y cerbyd hwn gan fod ganddo un rhimyn olwyn foel yn achosi niwed i’r ffordd.”

Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â PC Atkinson yng ngorsaf heddlu Caernarfon ar 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 19100159846, neu
Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.


Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice