Apêl CCTV wedi bwrgleriaeth yn Nolgellau

Heddlu Gogledd Cymru

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth wedi i offer gwerth miloedd o bunnau gael ei ddwyn o gwmni adeiladu yn Nolgellau.

Cafodd offer, arian parod a threlar Ifor Williams eu cymryd o Ystâd Ddiwydiannol Marian Mawr rhwng 10.30pm ar nos Wener 9 Ionawr a 12.30yb ar bore dydd Iau 10 Ionawr.

Aeth y pedwar troseddwr i mewn i’r uned drwy ffenest gefn gan ffoi mewn Hyundai Santa Fe du gan dynnu’r trelar Ifor Williams y tu ôl iddynt. Daliwyd y troseddwyr ar gamera CCC:

Meddai PC Jessie Zara Clarke o orsaf heddlu Dolgellau: ”Rydym yn meddwl bod y troseddwyr wedi dianc i gyfeiriad Gorllewin Mersia, ac rydym yn awyddus i gysylltu ag unrhyw un a welodd y cerbyd yn tynnu’r trelar o’r ystâd ddiwydiannol.”

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y byrgleriaeth, cysylltwch â PC Clarke yng Ngorsaf Heddlu Dolgellau ar 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 19100009848, neu ewch ar y wefan Heddlu Gogledd Cymru.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

MônFM

Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice