Dwyn alcohol o siop yng Nghaergybi

Heddlu Gogledd Cymru

Mae’r heddlu yn gofyn am gymorth i adnabod dyn a wnaeth ddwyn chwe photel o alcohol o Lidl yng Nghaergybi.

Digwyddodd y lladrad o gwmpas 3.30pm ar ddydd Mercher (17 Hydref) pan wnaeth dyn ddwyn basged yn cynnwys poteli o alcohol.

Meddai PC 3085 Hannah Lomozic: ”Bu un aelod o staff y siop yn ddewr iawn gan erlid y dyn a llwyddo i gael rhai o’r poteli yn ôl. Rhoddwyd enw gan aelod o’r cyhoedd. Rydym yn awyddus i siarad â’r aelod o’r cyhoedd a wnaeth enwi’r dyn ac unrhyw un arall a allai adnabod y gŵr hwn.”

Dylai unrhyw un a welodd y digwyddiad gysylltu â PC Lomozic yng Ngorsaf Heddlu Caergybi ar 101 neu fynd ar y wefan Heddlu Gogledd Cymru gan ddyfynnu W148421.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Eich Gorsaf, Eich Llais
Your Station, Your Voice