Gwrthdrawiad ar yr A499: dyn wedi’i arestio

Mae dyn wedi’i arestio yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A499 ger Penygroes.

Galwyd yr heddlu i adroddiad am wrthdrawiad rhwng lori fechan Ford Ranger oren a fan VW Caddy am 5.10yb ar bore Gwener (5 Hydref) rhwng y gyffordd am Ddinas Dinlle ac Allt Goch.

Cafodd gyrrwr y fan, dyn lleol, ei gludo i Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau difrifol ond rhai sydd ddim yn peryglu bywyd.

Mae dyn arall, sydd ddim o’r ardal, wedi’i arestio ar amheuaeth o beidio stopio yn dilyn gwrthdrawiad ffordd difrifol a gyrru’n beryglus.

Dywedodd y Rhingyll Raymond Williams o’r Uned Plismona Ffyrdd: ”Rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd efallai’n teithio ar hyd yr A499 ac efallai welodd y Ford Ranger oren yn cael ei gyrru rhwng 4.30yb a 5yb o Gaernarfon i leoliad y gwrthdrawiad.”

”Yr un modd, hoffem siarad ag unrhyw un a oedd efallai’n teithio ar hyd y ffordd honno oddeutu amser y gwrthdrawiad ac sydd efallai â ffilm camera cerbyd.”

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth, cysylltwch â’r Uned Plismona Ffyrdd yn Llandygái ar 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod W141782.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Eich Gorsaf, Eich Llais
Your Station, Your Voice