Cyrch cyffuriau yn Maesgeirchen: arestio dau

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dau o bobl wedi’u harestio mewn cyrch cyffuriau ym Mangor.

Gwnaeth swyddogion weithredu’r gwarantau ar stad Maesgeirchen ar bore Mawrth (9 Hydref) yn dilyn derbyn cudd-wybodaeth.

Arestiwyd dyn a dynes lleol am fod ynghylch cyflenwi cyffuriau rheoledig.

Dywedodd Ditectif Arolygydd Andrew Gibson: ”Rydym eisiau tawelu meddwl pobl Bangor ein bod yn gweithredu’n gadarnhaol. Drwy gynnal y gwarantau hyn ein nod yw achosi aflonyddwch i fasnachu cyffuriau anghyfreithlon ledled yr ardal.”

”Ni fyddai’r mathau hyn o warantau yn bosibl heb gymorth y cymunedau lleol. Rwy’n apelio ar unrhyw un gyda gwybodaeth yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau o unrhyw fath i gysylltu â ni. Gwnawn drin unrhyw wybodaeth yn gyfrinachol bob amser.”

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Eich Gorsaf, Eich Llais
Your Station, Your Voice