Lladrad ym Mhorthaethwy: arestio dau ddyn

Geograph

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio yn dilyn lladrad arfog tu allan i dafarn ym Mhorthaethwy.

Roedd dyn yn cael ei fygwth gyda chyllell ym maes parcio’r Four Crosses ar Ffordd Penmynydd toc wedi 9:30yb bore dydd Llun (9 Gorffennaf). Cafodd arian ei ddwyn ond ni chafodd y dyn ei anafu.

Mae dyn 30 oed a dyn 22 oed o ardal Bangor yn parhau i fod yn ddalfa’r heddlu.

Mae’r heddlu wedi lleoli car Volkswagen Golf arian mewn cysylltiad â’r lladrad. Ond dywedodd DC Sioned Copeland: ”Rydym yn apelio am unrhyw un welodd y digwyddiad i gysylltu gyda ni.”

Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â CID Llangefni ar 101 a dyfynnwch rif cyfeirnod W094277. Fel arall, cysylltwch â Taclo’r Tacla’n ddienw ar 0800 555 111.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Eich Ynys, Eich Llais
Your Island, Your Voice