Arestio gyrrwr wedi gwrthdrawiad ger Brynrefail

Mae dyn 49 oed wedi cael eu arestio yn dilyn gwrthdrawiad difrifol rhwng tri cherbyd ger Brynrefail.

Cafodd yr heddlu wybod wrthdrawiad rhwng VW Golf du, Mazda MX5 a Nissan Duke ar yr A4344 tua 3yp ar prynhawn Sul (8 Gorffennaf).

Daeth y gwasanaethau brys at y ddamwain ac anfonwyd pedwar person – gyrrwr a theithiwr yn set flaen y Mazda a’r Nissan Duke i Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Aethpwyd â gyrrwr y Nissan Duke i’r ysbyty yn Stoke yn ddiweddarach gydag anafiadau difrifol.

Gadawodd y gyrrwr y Golf y safle heb sicrhau bod gyrwyr y ddau gerbyd arall yn iawn.

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru, gyrru’n beryglus, methu â stopio wedi gwrthdrawiad a gwrthod stopio ar orchymyn yr heddlu. Mae’r dyn yn aros yn y ddalfa.

Meddai Rhingyll Raymond Williams o Uned Plismona’r Ffyrdd: ”Credaf fod y car wedi teithio o ardal Bethesda, felly rwyf yn apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio ar y ffordd honno rhwng 2.30pm a 3pm a welodd VW Golf yn cael ei yrru mewn modd peryglus i gysylltu â ni.”

Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â’r Uned Plismona Ffyrdd yn Llandygai ar 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Leave A Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Eich Ynys, Eich Llais
Your Island, Your Voice