Mae’r heddlu’n chwilio am gwpl a helpodd seiclwr yn dilyn damwain ger Aberffraw.
Mae dyn 66 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad un-gerbyd ar ffordd ddi-ddosbarth i Hermon ychydig cyn 12.45yp ddydd Mercher diwethaf (23 Mai). Cafodd y gyrrwr ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gan ambiwlans.
Mae’r cwpl yn eu chwedegau ac yn byw o amgylch ardal Caergybi. Credir eu bod yn siarad ag acen Gwyddelig.
Dylent gysylltu â 101 ar unwaith, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod W067480.