
Heddlu Gogledd Cymru
Mae clwb pêl-droed yn Nyffryn Nantlle wedi cael arian yr heddlu i atal pobl rhag byrgleriaid a fandaliaid.
Gosodwyd camera bywyd gwyllt dros dro mewn yn ystafelloedd newydd CPD Llanllyfni yn dilyn cyfnod o ddigwyddiadau.
Roedd yn llwyddiant ac adnabuwyd ieuenctid a oedd yn gyfrifol am ddifrodi’r ystafelloedd newydd ar un achlysur ac ymdriniwyd â nhw’n unol â hynny.
Rwan, mae’r clwb wedi cael grant gan yr Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned (PACT) ar gyfer dau gamerâu teledu CCC parhaol a phaent atal dringo i atal pobl ifanc rhag dringo i’r toeau’r ystafelloedd newydd.
Dywedodd SCCH Sammie-Leigh Williams: ”Rydym yn gobeithio bydd ychwanegu camerâu bywyd gwyllt a phaent atal dringo i’r clwb yn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ac arwain at lai o ddifrod troseddol i’r ardal.”
Mae PACT Gogledd Cymru yn elusen diogelwch cymunedol sy’n cefnogi ac yn noddi prosiectau cymdogaeth gwledig ar draws y rhanbarth. Mae’n dathlu ei pen-blwydd yn 20 oed eleni.