
Cyngor Gwynedd
Mae ymgynghoriad wedi dechrau ar gôd gwirfoddol newydd i landlordiaid ac asiantau gosod eiddo ei ddilyn ar y defnydd o arwyddion ‘Ar Osod’ ym Mangor.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r doreth o arwyddion ‘Ar Osod’ wedi ymestyn ar draws y ddinas ac wedi bod yn destun pryder o ran amharu ar effaith weledol.
Ond yn ôl Cyngor Gwynedd, mae’r nifer o arwyddion sydd i’w gweld ym Mangor wedi lleihau yn sylweddol dros y misoedd diwethaf. Mae’r cyngor wedi bod yn cydweithio gyda landlordiaid, asiantaethau gosod tai a chyrff eraill yn yr ardal.
Er mwyn sicrhau fod y tuedd yn parhau, mae’r cyngor yn ymgynghori ar gôd gwirfoddol newydd sy’n gosod meini prawf penodol ar gyfer gosod arwyddion ‘Ar Osod’. Mae’r cyfyngiadau sy’n cael eu cynnig yn cynnwys:
- Caniatáu dim ond un arwydd ‘Ar osod’ ar bob eiddo, hyd yn oed os ydi’r adeilad wedi ei isrannu yn fflatiau ayb.
- Bod unrhyw arwydd yn cael ei osod yn llyfn i’r mur uwchben drws blaen yr adeilad.
- Ni chaniateir unrhyw ddarn o’r arwydd fod yn uwch na sil ffenestr llawr cyntaf.
- Dylai pob arwydd gael cefndir gwyn a chydymffurfio gyda dimensiynau 34cm x 48cm.
- Caniatáu un logo cwmni i bob arwydd ac nid fydd hwnnw yn fwy na thraean yr arwydd.
- Dim mwy nag un arwydd ar gyfer pob asiant neu gwmni ar bob stryd.
- Rhaid tynnu unrhyw arwydd o fewn 14 diwrnod yn dilyn cwblhau cytundeb.
- Annog pob arwydd i fod yn ddwyieithog.
Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd: ”Rydw i’n ymwybodol fod yna gytundeb wedi bod ac ymrwymiad gan asiantau gosod yn ddiweddar i ddelio efo’r mater yma. Yn wir, mae’r rhan fwyaf o’r hen fath o arwyddion a oedd yn bla yn ardal Bangor wedi eu tynnu yn ddiweddar, ac mae’r effaith gadarnhaol ar yr ardal yn amlwg i bawb.”