Tân mewn fflat yng Nghaernarfon

Mae un person wedi dianc tân yn y gegin mewn fflat yng Nghaernarfon.

Galwyd dau griw o Gaernarfon at cyfeiriad yn Llys Buddyg, Pendalar am jyst cyn 1.40yb ar bore dydd Llun (9 Gorffennaf).

Achoswyd y tân gan fwyd a oedd wedi ei adael yn coginio a chafodd un person driniaeth o ganlyniad i anadlu mwg. Cafodd y preswylydd ei rybuddio am y tân gan larymau mwg a oedd wedi eu gosod yn yr eiddo.

Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch ar gyfer Gwynedd a Môn: ”Dro ar ôl tro rydym yn cael ein galw at danau sydd wedi cychwyn yn y gegin – mae mor hawdd anghofio am fwyd sydd yn coginio, yn enwedig os ydych chi wedi blino, os oes rhywbeth yn mynd â’ch sylw neu os ydych wedi bod yn yfed. Fodd bynnag, fe all y canlyniadau fod yn drychinebus.”

”Mae ein neges yn glir – peidiwch byth â throi eich cefn ar eich coginio, hyd yn oed am funud. Mae gadael unrhyw fwyd yn coginio, ond yn enwedig sosban sglodion, am unrhyw gyfnod o amser yn medru arwain at ganlyniadau erchyll.”

Leave A Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Eich Ynys, Eich Llais
Your Island, Your Voice